Math | afon |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Caint |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.4799°N 0.2201°E |
Aber | Afon Tafwys |
Llednentydd | Afon Cray |
Hyd | 32 cilometr |
Afon yng Nghaint, De-ddwyrain Lloegr, yw Afon Darent, sy'n isafon i Afon Tafwys. Mae'n codi i'r de o dref Westerham, cyn llifo am 32 km (20 mi) trwy bentrefi Otford, Shoreham, Lullingstone, Eynsford, Farningham, Horton Kirby, South Darenth a Sutton-at-Hone, ac yn cyrraedd ei haber ger Dartford. Afon Cray, sy'n ymuno â hi i'r gogledd o Dartford, yw ei phrif isafon, ac mae ganddi lawer o lednentydd llai eraill.